Astudiaeth Gymraeg

Gwybodaeth i Wirfoddolwyr

Cyfeirnod Cymeradwyaeth Moeseg: R86744/RE001

Gwybodaeth Gyffredinol

Diolch am eich diddordeb mewn cymryd rhan yn yr astudiaeth hon.

Os gwelwch yn dda, darllenwch y wybodaeth isod cyn penderfynu a hoffech eisiau cymryd rhan ai peidio.

Gallwch ddarllen y wybodaeth hon yn Saesneg yma.

You can read this information in English here.

Nod yr ymchwil yw dysgu mwy am sut mae pobl yn siarad Cymraeg mewn sefyllfaoedd anffurfiol.

Gallwch wirfoddoli...

Rydym yn deall y gall fod yn siomedig peidio bod yn gymwys i gymryd rhan. Gosodir cyfyngiadau cymhwysedd er mwyn lleihau amrywioldeb yn y data. Rydym wedi cyfyngu'r cymhwysedd yn y ffordd hon gan mai un o'r pethau yr ydym am ei astudio yw effaith ardal plentyndod unigol ar sut mae pobl yn defnyddio'r Gymraeg.

Byddwch chi’n gwrando ar gyfres o recordiadau sain sydd yn cynnwys pâr o frawddegau byr. Byddwn ni’n gofyn i chi roi sgôr i'r ail frawddeg, yn adlewyrchu os ydych yn ei hystyried yn frawddeg Gymraeg derbyniol ai peidio. Does dim atebion cywir nac anghywir, rydyn ni â diddordeb yn y ffordd rydych chi'n defnyddio'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd anffurfiol bob dydd, yn hytrach na’r hyn y byddai llyfr gramadeg yn ei ddweud. Felly, does dim angen i chi fod wedi dysgu Cymraeg mewn cyd-destun ffurfiol. Bydd hyn yn cael ei egluro eto, gydag enghreifftiau, ar ddechrau'r arbrawf Ni ddylai'r arbrawf ddim cymryd mwy na 30 munud.

Nac oes. Mae'r astudiaeth yn wirfoddol, a gallwch chi dynnu allan ar unrhyw adeg drwy gau'r tab porwr.

Ar gyfer yr ymchwiliad, nid ydym yn gofyn i chi am ddata a allai ddatgelu eich hunaniaeth. Rydym yn gofyn am:

Os hoffech dderbyn cerdyn rhodd, mae rhaid i ni gasglu ychydig o fanylion sydd yn datgelu eich hunanaiaeth:

Ar diwedd yr holiadur, byddwch yn derbyn dolen i rannu eich cod cyfranogwr, enw, a’ch cyfeiriad e-bost trwy Microsoft Forms, er mwyn derbyn eich cerdyn rhodd. Mae hyn yn opsiynol.

Ni chedwir cyfeiriad IP eich cyfrifiadur.

Ni fydd eich enw na'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu storio gyda gweddill y data ymchwil. Ni ellir cysylltu eich atebion â'ch enw a'ch cyfeiriad e-bost ond trwy eich côd cwblhau unigryw, a fydd yn cael ei ddileu ar ôl 12 mis. Ar ôl hyn, bydd eich data yn ddienw. Bydd eich enw a'ch cyfeiriad ebost dim ond yn cael eu defnyddio er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn eich cerdyn rhodd.

Bydd gan y cyhoedd fynediad at y data dienw:

Data a allai ddatgelu eich hunaniaeth:

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu rhannu â'r cwmni yr ydych yn dewis er mwyn ichi gael derbyn eich cerdyn rhodd oddi wrthynt. Gallwch ddarllen polisïau preifatrwydd y cwmnï perthnasol sy'n amlinellu sut yr ydynt yn defnyddio'r data hwn, yma:

Y prif reolwr data o ran eich data personol yw Prifysgol Rhydychen (The University of Oxford) ac felly bydd y Brifysgol yn penderfynu sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio yn yr ymchwil. Bydd y Brifysgol yn prosesu eich data personol at ddiben yr ymchwil a amlinellwyd uchod. Tasg ein bod yn perfformio er budd y cyhoedd yw ymchwilio. Ceir mwy o wybodaeth am eich hawliau o ran eich data personol ar gael yma (yn Saesneg yn unig).

Cafodd y prosiect ymchwil hwn ei adolygu gan is-bwyllgor Cyd-bwyllgor Moesau Ymchwil Canolog Prifysgol Rhydychen [Cyfeirnod Cymeradwyaeth Moeseg : R86744/RE001].

Os oes gennych bryder am unrhyw agwedd ar yr ymchwil hwn, cysylltwch â’r ymchwilydd doethur Frances Dowle (frances.dowle@ling-phil.ox.ac.uk, yn Gymraeg neu Saesneg) neu y cyfarwyddwyr, David Willis (david.willis@ling-phil.ox.ac.uk, yn Gymraeg neu Saesneg) a Louise Mycock (louise.mycock@ling-phil.ox.ac.uk, yn Saesneg yn unig), a byddwn yn gwneud ein gorau i ateb eich ymholiad.

Byddwn yn cydnabod eich neges o fewn 10 diwrnod gwaith gan ddweud wrthych sut y byddwn yn ymdrin â hi. Os byddwch yn parhau i fod yn anhapus neu os hoffech chi gyflwyno cwyn ffurfiol, cysylltwch â `Chair of the Social Sciences & Humanities Interdivisional Research Ethics Committee’ Prifysgol Rhydychen yn Saesneg, a fydd yn ceisio datrys y mater cyn gynted â phosibl.

Ebost: ethics@socsci.ox.ac.uk

Cyfeiriad: Research Services, University of Oxford, Boundary Brook House, Churchill Drive, Headington, Oxford OX3 7GB

Os hoffech gymryd rhan, dilynwch y ddolen hon.

https://farm.pcibex.net/p/yfYXvJ/